Ein Hadnoddau
Achredu
Gwrthrych o arddangosfa Beirdd Cymru yn Amgueddfa'r Old Bell
Mae Cynllun Gweithredu Strategaeth Amgueddfeydd Cymru 2010-2015 yn nodi y bydd CyMAL, mewn partneriaeth â'r holl amgueddfeydd achrededig, yr holl wasanaethau cefnogi amgueddfeydd, a phob adran Llywodraeth Cymru: "Yn parhau i weithio gyda Chymdeithas yr Amgueddfeydd i ddatblygu’r Safon Achredu ac i’w defnyddio fel sail ar gyfer polisi" a bydd: "Y sector yn gweithio tuag at y Safon Achredu."
Mae Achredu yn gynllun gwirfoddol, ledled y DU, ar gyfer amgueddfeydd. Cafodd ei lansio yn 2004 gan y Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau (MLA). Erbyn hyn caiff ei reoli gan Gyngor Celfyddydau Lloegr (ACE) ac fe gyhoeddwyd Safon ddiwygiedig ym mis Hydref 2011 a cheir adran canllawiau ar eu gwefan.
- CyMAL sy'n gweinyddu'r cynllun hwn yng Nghymru ac mae'n cynnig cymorth a chyngor i amgueddfeydd ledled y wlad. Ewch i dudalen Achredu Amgueddfeydd CyMAL i lwytho ffurflenni cais a chanllawiau oddi ar y we
- Cyhoeddodd ACE ddiweddariad i'r cynllun achredu ym mis Tachwedd 2012, sy'n cynnwys ffigurau ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru
- Mae'r Collections Trust yn cynnig adnoddau i roi cymorth i sefydliadau drwy'r broses achredu drwy gyfrwng y Collections Link
Mae adnoddau ar gael i gefnogi darparu'r strategaeth (ac mae llawer ohono'n berthnasol iawn i Achredu) ym mhrif gorff ein hadran ar adnoddau ar-lein. At hynny, wrth iddynt ddod i law, byddwn hefyd yn ychwanegu adnoddau sy'n ymwneud yn benodol ag Achredu (yn hytrach na Chynllun Gweithredu Strategaeth Amgueddfeydd Cymru) at y dudalen hon:
Adran Un: Iechyd Sefydliadol
Adran Dau: Casgliadau
Adran Tri: Defnyddwyr a'u profiadau
Ewch i'r tudalennau Rhannu Profiadau i ganfod cydweithwyr sy'n barod i gynnig cymorth yn y maes hwn.
Ewch i'r tudalennau Adnoddau Defnyddiol i ganfod sefydliadau eraill a all gynnig arweiniad.
Follow us on:
