Social Media

 

 Welsh Museums Festival Photography Competition

Terms and Conditions

  1. To enter the competition you must send a photograph taken at a Museum in Wales during summer 2015 to the @Welshmuseums twitter or the Welsh Museums Facebook page.
  2. The entry must be a photograph in its original form that has not been enhanced or altered in any way.  All images submitted must be the work of the individual submitting them. It is the responsibility of each entrant to ensure that any images they submit have been taken with the permission of the subject and do not infringe the copyright of any third party or any laws. Entrants must warrant that the photograph they are submitting is their own work and that they own the copyright for it.
  3. Copyright in all images submitted for this competition remains with the respective entrants. However, in consideration of their providing the Competition, each entrant grants a worldwide, irrevocable, perpetual licence to Wrexham County Borough Council to feature any or all of the submitted images in any publications, websites and/or in any promotional material connected to this competition. The winner will be giving their consent to have their name and photograph published in the media and on www.museums.wales   They will also be giving their consent for their photograph and name to be publicised on the Gwyl Amgueddfeydd Cymru / Welsh Museums Festival social media pages.  All photographs entered into the competition may be used to promote the Welsh Museums Festival which runs from 24th October – 1st November 2015 as well as generally promoting museums in Wales throughout the year.
  4. The competition will run from Monday 3rd August – Wednesday September 30th 2015 at 23:59.
  5. Anyone over the age of 16 is eligible to be entered into the draw for a chance to win a selection of Welsh Museums gift shop goodies.
  6. The winner will be randomly selected from the names entered into the draw and will be informed no later than Monday 5th October 2015.
  7. The prize is a selection of goodies from museum gift shops in Wales (more details TBC)
  8. The winners name will be published on www.museums.wales and the social media pages 
  9. The prize is as stated and is non-transferable.  No cash alternative is available.
  10. Employees of museums in Wales or members of their families are not eligible to enter into this promotion (defined as parents, children, siblings, spouse, civil and life partners.)
  11. This promotion is one element of the Welsh Government’s strategic development programme for museums in Wales, this strand of the programme is delivered by Wrexham County Borough Council on behalf of MALD (Museums, Archives and Libraries in Wales)
  12. No correspondence will be entered into regarding either the competition or these terms and conditions.  In the unlikely event of a dispute, Wrexham County Borough Council’s decision shall be final. Wrexham County Borough Council reserves the right to amend, modify, cancel or withdraw this competition at any time without notice. 
  13. Wrexham County Borough Council reserve the right in its absolute discretion to disqualify any entrant if it has reasonable grounds to believe that an entrant has breached any of the above terms, any applicable law (including copyright law) or has otherwise infringed the intellectual property of any other person. Further in the event that the entry is deemed to show inappropriate or dangerous behaviour, or otherwise be obscene, defamatory, distasteful, offensive, or in breach of any applicable law or regulation. Each entrant acknowledges and agrees that any failure to comply with these conditions could lead to Wrexham County Borough Council disqualifying that person, without Wrexham County Borough Council giving any reason for such disqualification or granting any opportunity for challenge.In the event that a Prize-winner is disqualified from the Competition, Wrexham County Borough Council will, unless otherwise stated in the Competition Terms, select an alternative Prize-winner in the same manner as the original Prize-winner and such selection will be subject to the Rules.

 

 

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth G?yl Amgueddfeydd Cymru

Telerau ac Amodau

 

  1. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth rhaid i chi anfon ffotograff a dynnwyd mewn Amgueddfa yng Nghymru yn ystod haf 2015 at twitter @AmgueddfeyddCymru neu dudalen Facebook Amgueddfeydd Cymru.
  2. Rhaid i’r cais fod yn ffotograff yn ei ffurf wreiddiol sydd heb ei wella na’i newid mewn unrhyw ffordd.  Rhaid i’r holl ddelweddau a gyflwynir fod yn waith yr unigolyn sy’n eu cyflwyno. Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw sicrhau bod unrhyw ddelweddau a gyflwynir ganddynt wedi’u tynnu gyda chaniatâd y gwrthrych ac nad ydynt yn torri hawlfraint unrhyw drydydd person neu unrhyw ddeddfau. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau mai eu ffotograff eu hunaint y maent yn ei gyflwyno a’u bod yn berchen ar yr hawlfraint arno.
  3. Mae hawlfraint pob delwedd a gyflwynir i’r gystadleuaeth hon yn parhau gyda’r ymgeiswyr priodol. Ond, yn gydnabyddiaeth am ddarparu’r Gystadlleuaeth, bydd pob ymgeisydd yn caniatáu trwydded fyd-eang, ddi-alw’n-ôl, wastadol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnwys unrhyw un neu’r cyfan o’r delweddau a gyflwynir mewn unrhyw gyhoeddiadau, gwefannau a/neu mewn unrhyw ddeunydd hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon. Bydd yr enillydd yn rhoi ei ganiatâd i gyhoeddi ei enw a’i ffotograff yn y cyfryngau ac ar www.amgueddfeydd.cymru  Fe fydd hefyd yn rhoi ei ganiatâd i’w ffotograff a’i enw gael cyhoeddusrwydd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol G?yl Amgueddfeydd Cymru / Welsh Museums Festival.  Efallai y bydd pob ffotograff sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo G?yl Amgueddfeydd Cymru sydd ymlaen rhwng 24 Hydref – 1af Tachwedd 2015 yn ogystal â hyrwyddo amgueddfeydd yng Nghymru yn gyffredinol drwy gydol y flwyddyn.
  4. Bydd y gystadleuaeth ymlaen o ddydd Llun 3ydd Awst – dydd Mercher 30 Medi 2015 am 23:59.
  5. Mae unrhyw un dros 16 mlwydd oed yn gymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth i gael cyfle i ennill detholiad o nwyddau o siopau anrhegion Amgueddfeydd Cymru.
  6. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith yr enwau a ddaeth i law a bydd yn cael gwybod erbyn dydd Llun 5 Hydref 2015 fan bellaf.
  7. Y wobr yw detholiad o nwyddau o siopau anrhegion amgueddfeydd yng Nghymru (rhagor o fanylion i’w cadarnhau)
  8. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar www.amgueddfeydd.cymru a thudalennau cyfryngau cymdeithasol 
  9. Mae’r wobr fel a nodir ac ni ellir ei throsglwyddo. Ni chynigir unrhyw arian yn lle'r wobr dan sylw.
  10. Nid yw gweithwyr amgueddfeydd yng Nghymru nac aelodau o’u teuluoedd yn gymwys i gymryd rhan yn yr hyrwyddiad hwn (diffinnir hyn fel rhieni, plant, brodyr neu chwiorydd, priod, partneriaid sifil a phartneriaid oes.)
  11. Mae’r hyrwyddiad hwn yn un elfen o raglen datblygu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd yng Nghymru, fe gyflawnir y maes hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ran MALD (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng Nghymru)
  12. Ni fydd gohebu o gwbl ynghylch y gystadleuaeth hon na’r telerau ac amodau hyn. Petai anghydfod, er bod hynny’n annhebygol, bydd penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derfynol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn mynnu’r hawl i ddiwygio, addasu, diddymu neu dynnu’r gystadleuaeth hon yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd. 
  13. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn mynnu’r hawl yn ôl ei ddoethineb llwyr i wahardd unrhyw ymgeisydd os oes ganddo sail resymol dros gredu bod ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o’r telerau uchod, unrhyw ddeddf gymwys (gan gynnwys cyfraith hawlfraint) neu fel arall wedi tresmasu ar eiddo deallusol unrhyw berson arall. Ymhellach os tybir bod y cais yn dangos ymddygiad amhriodol neu beryglus, neu fel arall yn anweddus, difenwol, di-chwaeth, tramgwyddys, neu’n torri unrhyw ddeddf neu reoliad cymwys. Mae pob ymgeisydd yn cydnabod a chytuno y gallai unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r amodau hyn arwain at Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwahardd y person hwnnw heb i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam roi unrhyw reswm dros waharddiad o’r fath na chaniatáu unrhyw gyfle i herio. Os bydd Enillydd gwobr yn cael ei wahardd o’r Gystadleuaeth, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, oni nodir yn wahanol yn Nhelerau’r Gystadleuaeth, yn dewis Enillydd gwobr arall yn yr un dull â’r Enillydd gwobr gwreiddiol a bydd dewis o’r fath yn ddarostyngedig i’r Rheolau.