Rhaglen Fenthyg Weston ar y cyd ag Art Fund, a Paratoi i Fenthyg 2018

Apr 30, 2018

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd y rownd nesaf o gyllid gan Raglen Fenthyciad Weston ar y cyd ag Art Fund yn agor ar gyfer ceisiadau yn ystod haf 2018. Fel y gwyddoch, mae'r rhaglen wedi'i dylunio i ariannu'n uniongyrchol a grymuso'r amgueddfeydd awdurdodau rhanbarthol a lleol llai o faint, i gael benthyg prif weithiau neu gasgliadau gan amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol y DU.

Wedi'i chefnogi'n hael iawn gan Sefydliad Garfield Weston, bydd y rhaglen yn dosbarthu £200,000 ychwanegol i amgueddfeydd ac orielau ledled y DU ar gyfer prosiectau sy'n galluogi benthyg gweithiau celf ac arteffactau i gael eu harddangos. Bydd grantiau'n amrywio o £5,000 i £25,000 a gellir eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o gostau, gan gynnwys cludiant, yswiriant, cadwraeth, gosod, a gweithgareddau sy'n ymwneud ag eiriolaeth, marchnata a datblygu cynulleidfaoedd.

Bydd y broses gwneud cais yn agor ym mis Mehefin, a byddem yn annog amgueddfeydd y DU sydd â diddordeb i gymryd rhan mewn un o weithdai Paratoi i Fenthyg. Caiff y rhain eu cynnal ledled y wlad o fis Ebrill i fis Gorffennaf, ac yn cael eu cynnal gan Touring Exhibitions Group (TEG). Mae'r hyfforddiant hwn yn cefnogi cyfranogwyr i gael y wybodaeth a'r hyder i wneud cais i fenthyg gwrthrych neu arddangosfa, a bydd yn gyfle i ddysgu mwy am Raglen Fenthyg Weston. Ymysg yr hyfforddwyr bydd Rheolwr Indemniad y Llywodraeth Carol Warner a'r Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol William Brown. Mae'r dyddiadau a'r lleoliadau fel a ganlyn:

· Amgueddfa Werin a Thrafnidiaeth Ulster, Belfast, 15 Mai 2018

· Amgueddfa Wrecsam, 23 Mai 2018

· Amgueddfa Stori Caerdydd, 5 Mehefin 2018

· Galeri Portreadau Cenedlaethol yr Alban, Caeredin, 26 Mehefin 2018

· Casgliad Wellcome, Llundain, Gorffennaf 2018

Ewch i www.tegevents.eventbrite.com am ragor o fanylion ac i archebu eich lle ar gyfer hyfforddiant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gweithdai, cysylltwch â Charlotte Dew, charlotte@teg.org.uk.

I gael manylion pellach am Raglen Fenthyg Weston ar y cyd ag Art Fund ewch i www.artfund.org/supporting-museums/weston-loan-programme, ac i drafod prosiect posibl cysylltwch â Penny Bull, pbull@artfund.org.