News
Grantiau Gwydnwch COVID 19
Apr 2, 2020
Pleser o’r mwyaf gan y Ffederasiwn yw dweud ein bod, diolch i Lywodraeth Cymru, wedi sicrhau cyllid o £325,000 i greu cynllun grant Gwydnwch COVID-19 ar gyfer amgueddfeydd ac atyniadau treftadaeth yng Nghymru.
Ynghlwm mae manylion pellach am fod yn gymwys i wneud cais, y meini prawf, y telerau a’r amodau, a’r broses o wneud cais.
Mae’r Llywodraeth a nifer o gyrff eraill, gan gynnwys yn awr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, eisoes yn cynnig cymorth a chyllid. Rydym yn parhau i argymell bod ein haelodau yn manteisio i’r eithaf ar y cynlluniau hyn. Nod ein cynllun grant Gwydnwch COVID-19 yw ceisio llenwi’r bylchau yn hytrach na dyblygu’r cymorth sydd eisoes ar gael drwy ffynonellau eraill.

Follow us on:
