Newyddion
Noder bod nifer o newidiadau gyda’r pwyllgor a rolau'r o fewn Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yn ddiweddar.
Apr 1, 2021
Noder bod nifer o newidiadau gyda’r pwyllgor a rolau'r o fewn Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf
Cymru yn ddiweddar.
Mae Victoria Rogers wedi cael ei phenodi fel Pennaeth Amgueddfeydd a Chasgliadau gyda Llywodraeth Cymru
ac felly mae wedi camu lawr o’i rôl fel Llywydd. Hoffem longyfarch Victoria a dymuniadau gorau iddi gyda’r
swydd newydd. Siŵr y byddwch yn cytuno iddi fod yn gefnogwr ac eiriolwr cryf i’r sector yma yng Nghymru tra
yn ei rôl fel Llywydd dros y 6 mlynedd diwethaf a hynny ar adeg anodd iawn.
Ar Fawrth 19eg mewn Pwyllgor o’r Ffederasiwn cytunwyd byddai Nêst Thomas yn cymryd drosodd fel Llywydd
a Morrigan Mason fel Is-lywydd mewn rôl “gofalwyr” hyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mis Hydref, pan
fydd y penodiadau yn cael eu hysbysebu yn ffurfiol ac yn cael eu hethol gan yr aelodaeth. Mae Morrigan a fi yn
edrych ymlaen at gefnogi’r sector yn ein rolau newydd.
Yn ogystal mae Sara Maggs wedi camu lawr fel Trysorydd yn sgil cael ei phenodi fel Cynghorydd Casgliadau
gyda Llywodraeth Cymru. Hoffem ddymuno’n dda iddi ac rydym yn hynod o ddiolchgar am ei chyfraniad
gwerthfawr fel Trysorydd yn enwedig yn ystod yr adeg anodd yma. Etholwyd Nigel Blackamore fel Trysorydd
yn y Cyfarfod Anghyffredin a gynhaliwyd ar Ionawr 22, 2021.
Mae Richard Davies hefyd wedi camu lawr fel aelod o’r pwyllgor oherwydd iddo dderbyn swydd newydd yn
Amgueddfa REME. Mae Richard wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r pwyllgor a hoffem ddiolch iddo am ei
gyfraniad a phob hwyl yn ei swydd newydd.
Rydym yn chwilio am rai a fyddai efo diddordeb mewn cael eu cyfethol i’r pwyllgor neu i gael eu hethol i’r
pwyllgor yn yr CCB. Os oes unrhyw un efo diddordeb mewn bod yn rhan o waith y Ffederasiwn plîs cysylltwch
gyda’r Ysgrifennydd neu gydag aelod arall o’r pwyllgor.
Follow us on:
