Newyddion
Amgueddfa Caerdydd yn wynebu cau
Dec 22, 2022
Mae Cymdeithas yr Amgueddfeydd (MA) a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru wedi ysgrifennu at Gynghorwyr Dinas Caerdydd.
Mae’r MA a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yn gwrthwynebu’n llwyr gynlluniau Cyngor Caerdydd i gau Amgueddfa Caerdydd. Mae Amgueddfa Caerdydd yn amgueddfa arobryn sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac sy’n chwarae rhan hanfodol ym mywyd diwylliannol y ddinas. Mae’r amgueddfa’n cynnig llu o fanteision cymdeithasol ac economaidd i’r gymuned leol a'r tu hwnt, ac mae’n cyfrannu'n fawr at brif amcanion llesiant Cyngor Dinas Caerdydd, sef creu cymunedau diogel, hyderus a grymusol. Mae ei hamgueddfa, sydd wrth galon ddiwylliannol a masnachol y ddinas, yn ddatganiad clir eich bod ym mhrifddinas Cymru, dinas sy’n falch o’i threftadaeth ac sy'n edrych ymlaen at ddyfodol amrywiol a chynhwysol.
Letter
Follow us on:
