News
Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yn cyflwyno Cynhadledd Amgueddfeydd Cymru 2018
Jan 15, 2018
Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yn cyflwyno
Cynhadledd Amgueddfeydd Cymru 2018
Dydd Iau Mawrth 15eg 2018 I gychwyn am 10.30
Lleoliad: Amgueddfa Stori Caerdydd
Thema: Gweithredaeth Amgueddfeydd
Yn nyddiau newyddion ffug a ffeithiau amgen, mae astudiaethau wedi dangos fod y cyhoedd yn ymddiried mwy mewn amgueddfeydd nad ydynt mewn gwleidyddion, papurau newydd na’r cyfryngau. Ai ein dyletswydd at y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yw dogfennu ac adlewyrchu cymdeithas mewn ffordd ‘ddiduedd’, neu a oes gennym gyfrifoldebau ehangach? A ddylem ni fod yn fwy gweithredol wrth geisio gwneud gwahaniaeth a chreu cymunedau cydlynol? Mae llawer o amgueddfeydd bellach yn fwy gweithredol yn eu hymagwedd. Maent weithiau'n gweithredu’n draddodiadol, dro arall mewn ffyrdd bach, arwahanol. Maent yn defnyddio themâu megis mudo, cynaliadwyedd ac anghydraddoldeb yn eu rhaglenni a’u gweithgareddau i ymgyrchu i newid byd.
Cofrestrwch nawr.
Ynghlwm mae ffurflen archebu lle. Archebwch eich lle yn gynnar am mai nifer gyfyngedig sydd ar gael.
Mae'r Ffederasiwn yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y digwyddiad hwn. Prif siaradwr: Sharon Heal (Cymdeithas yr Amgueddfeydd) ac Bethan Jenkins AS (Cadeirydd: Pwllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathredu).
Siaradwyr eraill o: Pobl Caerdydd yn Gyntaf; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru; Tŷ Tredegar (YG)(NT).
Bydd digon o amser ar gael i drafod ac i rwydweithio.
Ffurflen Archebu

Follow us on: