News
Cynhadledd Amgueddfeydd Cymru 2020
Feb 14, 2020
Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru
Cynhadledd Amgueddfeydd Cymru 2020
I’w chynnal yn Storiel, Bangor,
ddydd Iau Mawrth 5ed 2020
Thema: Cynyddu ein Heffaith i’r Eithaf
Yn ddiamheuol mae ein sector a’n cymdeithas yn wynebu amserau heriol. Mae’r amgueddfeydd yn ymateb drwy fynd ati yn frwd i ddiwallu’r heriau hynny drwy raglennu creadigol, arferion cynaliadwy, a gweithio mewn ffyrdd gwahanol i gynyddu eu heffaith i’r eithaf, a bod yn sefydliadau cyfrifol, ymatebol.
Mae thema ein cynhadledd eleni yn eang o fwriad. Rydym yn awyddus i glywed am arferion arloesol ar draws pob maes o waith yr amgueddfa. Dymunwn i fynychwyr y gynhadledd eleni rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd, i gynorthwyo i ysbrydoli arferion newydd, a meithrin cadernid.
• Defnyddio systemau gwahanol o weithio neu lywodraethu
• Rhoi arferion cynaliadwy ar waith
• Rhoi rhaglennu cymunedol ymatebol yn greiddiol i’w gwaith
• Defnyddio casgliadau mewn ffyrdd newydd
• Darganfod ffyrdd newydd, gwreiddiol o wella marchnata a chyfathrebu
• Dod o hyd i ffynonellau arloesol o greu incwm a ffyrdd newydd o fod yn fwy cost effeithiol
Programme
Follow us on:
